Mae Eryri yn ardal ddelfrydol i fynd allan i gerdded a chael awyr iach, gan fwynhau golygfeydd godidog o'r mynyddoedd gogoneddus o'ch cwmpas.
Mae rhwydwaith o deithiau cerdded ar gael i bobl o bob gallu, o deithiau hamddenol ar lan llyn i'r dringfeydd mwy serth ac egnïol sy'n eich arwain i gopa'r Wyddfa neu i un o'r copaon niferus eraill yn y gadwyn.
Mae'n hawdd cyraedd dechrau'r teithiau cerdded hyn ar ein rhwydwaith bysiau, a gallwch ddal bws mewn man arall yn lle eich bod yn gorfod troi'n ôl.
Mae digon o wybodaeth ar gael i'ch helpu i gynllunio ychydig o oriau neu'r diwrnod cyfan yn crwydro Eryri – gan gynnwys lleoliadau parcio a theithio, bysiau a llwybrau cerdded.
Llwythwch ap Llwybrau Yr Wyddfa i lawr neu ewch i Parc Cenedlaethol Eryri.
Beth am fwynhau golygfeydd godidog o'r mynyddoedd drwy ymlacio ar drên stêm traddodiadol ar reilffordd gul? Mae'r rhan hon o Gymru yn enwog am ei threnau bach.
Mae Rheilffordd Ffestiniog yn mynd â chi o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog.
Rheilffordd Eryri yn mynd â chi o Borthmadog i Gaernarfon.
Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn mynd â chi o Lanberis bron i gopa'r Wyddfa, ac mae Rheilffordd Llyn Llanberis yn rhedeg ochr yn ochr â Llyn Padarn.
Mae Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Llyn Llanberis ar gau yn y gaeaf.
Mae Castell Caernarfon yn sefyll yn falch dros strydoedd cul hyfryd a glannau hardd y dref Gymreig hon, sy'n llawn cymeriad. Adeiladodd Edward I y castell fel palas brenhinol a chaer filwrol yn y 13eg ganrif yng nghanol y dref gaerog ganoloesol ac mae'n dal i danio'r dychymyg yn fwy nag unrhyw un arall o gestyll Cymru.
Dewch i grwydro o amgylch y dref a dod o hyd i fwytai, caffis a siopau arbenigol annibynnol, yn ogystal â chelf a chrefft lleol.
ewch i wefan Castell Caernarfon
Y styrir mai gerddi Plas Brondanw, cartref Clough Williams-Ellis a adeiladodd bentref Eidalaidd enwog Portmeirion, yw ei greadigaeth bwysicaf.
Creodd Syr Clough dirwedd unigryw ac arbennig, a ysbrydolwyd gan erddi o gyfnod y Dadeni yn yr Eidal. Yma, mae cyfres o olygfeydd rhamantaidd dros gefn gwlad, sy'n arwain y llygad at gefndir dramatig y mynyddoedd y tu hwnt.
10.30am - 3.45pm, Mer-Sul Pasg tan ddiwedd mis Medi
Darganfyddwch fwy ar wefannau Plas Brondanw a Phortmeirion.
M ae naws yr Alpau i'r pentref deniadol hwn, diolch i goed trwchus Coedwig Gwydyr, sy'n ei amgylchynu.
Dewch i ddarganfod siopau annibynnol llawn cymeriad, sy'n gwerthu crefftau, anrhegion, cynnyrch lleol ac, wrth gwrs, rhai siopau offer awyr agored gwych ac orielau celf sy'n arddangos gwaith artistiaid talentog o Gymru.
Os oes chwant bwyd arnoch, beth am fwynhau bwyd a diod lleol, sydd wedi ennill gwobrau, yn yr amrywiaeth eang o gaffis, bistros, bwytai a thafarndai.
Yn un o'r pentrefi cerrig harddaf yn Eryri, mae llwybr troed ar hyd glannau afon Glaslyn yn arwain at fedd Gelert – man gorffwyso ci ffyddlon Tywysog Cymru yn y canoloesoedd, Llywelyn Fawr.
Neu beth am fentro o dan y ddaear yng Ngwaith Copr Sygun i gerdded o amgylch yr hen waith, yn gwbl ddiogel. Dilynwch y twnelau troellog i siambrau lliwgar, gyda stalactidau a stalagmidau godidog a gwythiennau mwynau copr gydag olion o aur, arian a metelau gwerthfawr eraill.
Awydd hedfan drwy'r awyr fel aderyn?
Mentrwch ar y wifren wib gyflymaf yn y byd a'r hiraf yn Ewrop yn Zip World Chwarel y Penrhyn. Neu beth am fwynhau gwylio pobl eraill yn gwibio o Fwyty Blondin, cyn mynd ar Daith Chwarel y Penrhyn ar dryc coch.
Gwefan Zip World Chwarel y Penrhyn
Yn Zip World Fforest mae'r unig reid alpaidd yn y DU lle gallwch fynd ar wib drwy'r coed am dros gilometr. Llond trol o hwyl, beth bynnag fo'r tywydd! Yma hefyd mae'r siglen enfawr uchaf a'r rhodfa rhwydi hiraf yn Ewrop..