Mae'r Polisi Preifatrwydd yn cyfeirio at wybodaeth a gawn gennych chi a'r ffordd rydyn ni'n ei defnyddio wrth gynnal ein busnes. Mae gennym hefyd Bolisi Diogelwch sy'n disgrifio sut mae gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel.
Un o'r egwyddorion sylfaenol rydyn ni wedi'u dilyn wrth ddylunio'r wefan hon yw mai dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu'r gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdano y byddwn ni'n gofyn amdani. O ganlyniad, mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn dibynnu bron yn llwyr ar sut rydych yn dewis defnyddio ein gwefannau a'r rhestr gynyddol o wasanaethau gwefannau.
Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid y wefan yn darparu gwybodaeth er mwyn manteisio ar y gwasanaethau canlynol:
Cynigion Hyrwyddo: os ydych chi'n dymuno i ni eu darparu i chi, rydyn ni angen eich manylion cyswllt. I brynu pethau, rydyn ni angen y wybodaeth a nodir uchod. Mae ein trwydded yn mynnu ein bod yn cadw cofnod o bawb sydd â thocyn tymor.
Nid oes unrhyw sefydliad arall yn cael gweld eich gwybodaeth.
Tagiau bach yw cwcis, sydd wedi'u storio yn eich porwr, sy'n ein galluogi ni i'ch adnabod chi wrth i chi symud drwy'r wefan. Maent yn aml yn cynnwys dynodwr unigryw dienw sy'n cael ei anfon i'ch porwr o gyfrifiadur gwefan a'i storio ar ddisg galed eich cyfrifiadur. Gall pob gwefan anfon ei chwci ei hun i'ch porwr os yw dewisiadau eich porwr yn caniatáu hynny, ond (i ddiogelu eich preifatrwydd) mae eich porwr yn caniatáu i wefan gael mynediad at y cwcis y mae eisoes wedi'u hanfon atoch, nid y cwcis sy'n cael eu hanfon atoch gan wefannau eraill.
Mae'n gyffredin iawn i wefannau yn gwneud hyn pryd bynnag y mae defnyddiwr yn ymweld â'u gwefan er mwyn olrhain llif traffig ar-lein. Mae cwcis hefyd yn cofnodi gwybodaeth am eich dewisiadau ar-lein. Mae defnyddwyr yn cael cyfle i osod eu cyfrifiaduron i dderbyn pob cwci, i roi gwybod iddynt pan fydd cwci'n cael ei roi, neu i beidio â derbyn cwcis ar unrhyw adeg. Mae dewis yr opsiwn olaf yn golygu na ellir darparu rhai gwasanaethau personol i'r defnyddiwr hwnnw ac felly efallai na fyddwch yn gallu manteisio i'r eithaf ar yr holl nodweddion sydd ar gael ar ein gwefan.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar ein safle, darllenwch ein Polisi Cwcis, sydd wedi'i nodi yn yr adran isod. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, a sut mae eu dileu o'ch dyfais, ewch i cookiecentral.com - (agor mewn ffenestr newydd) neu aboutcookies.org - (agor mewn ffenestr newydd), neu edrychwch ar y ddewislen “Help” eich porwr i ddysgu sut mae newid eich dewisiadau cwcis.
Os ydych chi eisiau i'ch data gael ei newid, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at gwyb@sherparwyddfa.cymru gan nodi eich manylion cyfredol a'r newidiadau y gofynnir amdanynt.
Mae diogelwch eich data yn bwysig iawn i ni. Ewch i'n Polisi Diogelwch i gael rhagor o fanylion.
Efallai y bydd datblygiadau o ran sut rydyn ni'n defnyddio eich data. Rhoddir gwybod i chi am unrhyw newidiadau drwy ddiweddaru'r polisi hwn.
Os na fydd eich pryder yn cael sylw yma, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at gwyb@sherparwyddfa.cymru.
Diwygiwyd Tachwedd 2022
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu ni i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ar ein gwefan ac mae'n ein galluogi ni i wella ein gwefan. Mae cwci yn ffeil fach o lythrennau a rhifau rydyn ni'n eu storio ar eich porwr neu ar eich cyfrifiadur neu ar eich dyfais glyfar (y cyfeirir ati gyda'i gilydd fel 'dyfais') os ydych chi'n cytuno. Mae Cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo i'ch dyfais.
Isod, rydyn ni'n nodi gwybodaeth am ba gwcis y gellir eu gosod pan fyddwch yn ymweld â'n safle a sut mae gwrthod neu ddileu'r cwcis hynny.
Ni fyddwn yn defnyddio cookies i gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi. Fodd bynnag, er mwyn cyfyngu neu rwystro'r cwcis a osodir gan ein gwefan, gallwch wneud hyn trwy osodiadau eich porwr. Mae pob porwr yn wahanol, felly edrychwch ar ddewislen “Help” eich porwr i ddysgu sut mae newid eich dewisiadau cwcis. Os ydych chi wedi gosod eich dyfais neu borwr i gyfyngu neu wrthod cwcis, gallwch barhau i bori'r wefan hon yn ddienw nes eich bod yn dymuno cofrestru ar gyfer unrhyw wasanaethau, ond cofiwch y gallai cyfyngu ar gwcis effeithio ar swyddogaethau ein safle.
I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd neu ewch i cookiecentral.com - (agor mewn ffenestr newydd) neu aboutcookies.org - (agor mewn ffenestr newydd) sy'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i reoli cwcis ar amrywiaeth eang o borwyr. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion am sut mae dileu cwcis o'ch dyfais, yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis.
Rydyn ni'n defnyddio nifer o gyflenwyr sydd hefyd yn gosod cwcis ar ein safle ar ein rhan. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwcis sy'n cael eu defnyddio ar ein safle, gan gynnwys y rheini sy'n cael eu gosod gan gyflenwyr trydydd parti ar ein rhan, edrychwch ar yr adran isod.
enw |
beth maen nhw'n ei wneud |
am ba mor hir maen nhw'n para |
__utma
|
Google Analytics; yn cael ei ddefnyddio i gasglu a dadansoddi gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Mae'r gwasanaeth yn casglu gwybodaeth ddienw, fel nifer yr ymwelwyr â'n gwefan, o ble mae ymwelwyr wedi dod, ac ymweliadau â thudalennau ar ein gwefan. Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Google. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch bolisi preifatrwydd Google - (agor mewn ffenestr newydd) |
__utma: 2 flynadd
|
Efallai y byddwn yn diweddaru'r rhestr hon o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn y cwcis sy'n cael eu defnyddio ar ein gwefan.
Mae rhai rhannau o'n gwefan yn galluogi defnyddwyr i 'hoffi' neu wneud sylwadau ar ein safle drwy nifer o rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd (e.e. Facebook, Twitter). Mae'n bosib y bydd y gwefannau hyn yn gosod cwci pan fyddwch chi hefyd yn mewngofnodi i'w gwasanaeth. Nid ydym yn rheoli'r ffordd y caiff y cwcis hyn eu lledaenu a dylech edrych ar wefan berthnasol y trydydd parti am ragor o wybodaeth am y rhain.
Diwygiwyd Tachwedd 2022